Rhagor o Wybodaeth

Hwb Menter

Business support is available, thanks to the Enterprise Hub. The Enterprise Hub provides entrepreneurs with the knowledge, guidance, inspiration and space to transform their idea into a successful business. Services offered include co-working office spaces, a community of like-minded individuals to share ideas and offer encouragement, business advice, a range of events as well as the newly released Miwtini business start-up programme. And the best bit is, all of this is at no cost as a Hub member for at least 6 months!

Find out more

Caffi Trwsio

Mae nifer o’r gofodau Ffiws hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect Caffi Trwsio. Yn eu ffurf symlaf, mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau a gynhelir ar ddyddiadau rheolaidd lle gall y gymuned leol atgyweirio eu heitemau cartref sydd wedi torri am ddim gan wirfoddolwyr.

Mae'r mathau o bethau rydyn ni'n eu trwsio yn cynnwys dillad, offer trydanol cartref, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn, beiciau.

Mwy o wybodaeth yma

Mae gofodau gwneud Ffiws ar gael mewn sawl cymuned yng Ngwynedd, Ynys Môn a Chonwy. Mae pob Ffiws yn cael ei redeg gan y gymuned ac yn agored i bawb. Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr i wneud pob Ffiws yn llwyddiannus, ac yn ddelfrydol yn nodwedd tymor hir yn y lleoliadau hyn. Os hoffech chi gymryd rhan fel gwirfoddolwr rheolaidd, cysylltwch â sofie@m-sparc.com

Rydym hefyd yn chwilio am Wneuthurwyr Preswyl. Bydd gwneuthurwr proffesiynol yn gweithio gyda ni ar ddarn comisiwn taledig, a bydd yn gweithio o weithdy Ffiws. Yn gyfnewid am breswyliad a thaliad ariannol, gofynnwn i'r gwneuthurwr arddangos y gofod a'u gwaith i eraill, a hwyluso rhai digwyddiadau a sesiynau cynefino. I ddarganfod mwy, cysylltwch â ni ar sofie@m-sparc.com

Cofid

Rydym yn gweithredu Ffiws gan ddilyn canllawiau gweithio’n saff drwy’r pandemig. Mae rhaid i chi archebu’ch lle yn Ffiws er mwyn i ni fonitro rhifau ym mhob gofod. Nid ydym yn derbyn neb sy’n galw heibio am y tro.

Mae rhaid gwisgo mwgwd tra yn y Ffiws a peidiwch a dod os nad ydych yn teimlo’n dda.

Bydd sesiynau cynefino yn cael eu cynnal ar sail 1 i 1 neu grwpiau bach, gan gadw pellter cymdeithasol

Mae rhaid i chdi llnau’r offer rydych am ei ddefnyddio cyn ag ar ôl