Mae’n bosib y byddwch angen prynu deunyddiau i’w defnyddio yn
ystod eich ymweliad – gwiriwch gyda’r gofod Ffiws o flaen llaw.
Original Prusa i3 MK3S 3D printer (cynnwys y llun eto).
Mae ffilament ar gael ym mhob Ffiws a cewch gyfrannu tuag at y gost pan yn ei ddefnyddio. Ffilament deunydd PLA a PETG sydd gennym ni – hwn ydi’r math o ffilament mwyaf hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n addas ar gyfer rhan fwyaf o waith argraffu 3D.
Os hoffech brynu ffilament eich hunain, mae ffilament cytûn â’r argraffydd i’w gweld yma.
Nid ydym yn awgrymu defnyddio FLEX, am ei fod yn gallu tagu’r argraffydd.
Mae argraffwyr ar gael yn Ffiws er mwyn argraffu dyluniadau ar gyfer mygiau a deunyddiau eraill sy’n gydnaws. Mae’r papur a’r inc cywir ar gael hefyd. Nid oes angen i chi ddod â’ch un eich hun ond os ydych chi am ddefnyddio’r peiriant ar gyfer rhediad print mawr, cysylltwch â’ch Ffiws lleol ymlaen llaw.
Mae gan bob Ffiws gliniaduron am ddim i ddefnyddio gyda’r holl feddalwedd angenrheidiol ar gyfer dyluno o fodelu / sleisio 3D. Gallwch ddod â’ch gliniadur eich hun neu’ch dyluniadau neu fodelau ar ysgrifbin os oes gennych ddyluniadau sy’n barod i’w trosglwyddo i’r peiriannau.
Mae gwasg gwres yn beiriant sydd wedi’i beiriannu i argraffu dyluniad neu graffig ar wrthrych, fel crys-t, drwy ddefnyddio gwres a gwasgedd am gyfnod penodol o amser.
Er bod gweisg gwres yn aml yn cael eu defnyddio i gymhwyso dyluniadau i ffabrigau, gellir defnyddio gweisg a ddyluniwyd yn arbennig hefyd i argraffu dyluniadau ar fygiau, platiau, posau jig-so, capiau a chynhyrchion eraill.
ARC Multi Function Mug Press.
Addas ar gyfer mygiau 10oz a 11oz. Mae angen prynu mygiau sychdarthiad (sublimation), tydi mygiau arferol ddim am gymryd yr inc. Mae mygiau sychdarthiad yn golygu bod yr inc am fewnblannu mewn i’r mwg.
Engraifft o’r math y fygiau i brynu yma
Mae’r mygiau yn saff i’w rhoi yn y peiriant golchi llestri hyd at 45 gradd Celsius.
I argraffu’r delweddau bydd angen i chi ddefnyddio’r argraffydd sychdarthiad (sublimation) sydd ar gael yn Ffiws, ynghyd â’r papur arbennig ac inc cydnaws. Nid oes angen prynu’ch papur a’ch inc eich hun, ond ar gyfer argraffu nifer mawr o fygiau, siaradwch ag aelod o staff eich Ffiws lleol ymlaen llaw.
Cewch roi nifer o ddeunyddiau gwahanol yn y laser – gan gynnwys pren, acrylic, a llechen!
Dyma lle cewch weld pa ddeunyddiau sy’n addas, a cofiwch osgoi unrhyw ddeunydd gwaharddedig link ir ddogfen deunyddiau gwaharddedig eto.
Mae peiriant brodwaith yn eich galluogi i bwytho dyluniadau manwl, patrymau, a thestun yn awtomatig ar ddeunyddiau gyda chywirdeb a chyflymder.
Crëwch ddyluniadau brodwaith o ansawdd proffesiynol mewn munudau—yn berffaith ar gyfer personoli dillad, anrhegion, a chynhyrchion i wella’ch brand neu steil.
Mae peiriannau gwnïo domestig ar gael i’w defnyddio hefyd.
Mae’r peiriant hwn yn cymryd llu o wahanol ddefnyddiau, mewnosodwch y deunyddiau cyfatebol i wneud sticeri neu grysau-t. Dim ond ystod fach o ddeunyddiau sydd ar gael yn Ffiws, felly efallai yr hoffech sicrhau eich cyflenwad eich hun.
Rydym yn argymell y wefan hon i ddewis deunyddiau cydnaws. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n prynu deunyddiau ar gyfer y peiriant BN-20.
Self Adhesive Sign Vinyl, HTV, Large Printers, Laser Engravers | Grafityp UK Limited
Mae’r peiriant yn gweithio gydag ystod o ddeunyddiau: nid yw pren, plastig ac alwminiwm yn broblem.
Mae torri ffibr carbon, PCBs, a dur hefyd yn bosibl gydag ychydig o baratoi a rhagofal ychwanegol.
Cyflenwch eich deunyddiau eich hun ar gyfer y CNC, a gwiriwch gyda gweithdai Ffiws sy’n cynnig y peiriant hwn os nad ydych yn siŵr.
Mae’r peiriant hwn i dorri finyl, i’w drosglwyddo i lu o ddeunyddiau, gan gynnwys dillad. Dim ond un lliw y mae’r peiriant hwn yn ei dorri ar y tro. Mae finyl ar gael yn Ffiws i chi ei ddefnyddio; os hoffech ddod â’ch un eich hun mae gwefan Roland yn cynnig y manylebau technegol https://www.rolanddg.eu/en-gb.