Mae Hwb Trwsio Caergybi yn atgyweirio ac yn ailbwrpasu eitemau a gesglir o ganolfannau ailgylchu ledled Ynys Môn, a’u hatal rhag mynd yn wastraff. Mae ein tîm yn adfer dodrefn, eitemau trydanol ac eitemau cartref, gan roi bywyd newydd iddynt. Caiff y nwyddau hyn eu gwerthu yn siop Hosbis Dewi Sant, i ariannu eu gwasanaethau gofal hanfodol. Mae’r hwb hefyd yn cynnal gweithdai i ddysgu sgiliau atgyweirio ymarferol, gan hyrwyddo cynaliadwyedd a’r economi gylchol. Drwy drwsio yn hytrach na thaflu, rydym yn lleihau gwastraff tirlenwi ac yn creu eitemau fforddiadwy o ansawdd i’r gymuned.
Un o brosiectau Menter Môn yw Cylchol, sy’n helpu i hyrwyddo’r economi gylchol ar draws Gwynedd ac Ynys Môn, trwy ddigwyddiadau a gweithdai cymunedol cyffrous a gynhelir mewn gofodau fel Ffiws. Cliciwch i ddarganfod mwy.
Mae nifer o’r gofodau Ffiws hefyd yn cymryd rhan yn y prosiect Caffi Trwsio. Yn eu ffurf symlaf, mae caffis trwsio yn ddigwyddiadau a gynhelir ar ddyddiadau rheolaidd lle gall y gymuned leol atgyweirio eu heitemau cartref sydd wedi torri am ddim gan wirfoddolwyr. Mae’r mathau o bethau rydym ni’n eu trwsio yn cynnwys dillad, offer trydanol cartref, technoleg, gwaith coed, teganau plant, dodrefn, beiciau.
Mae gofodau gwneud Ffiws wedi’u lleoli ar draws Gwynedd ac Ynys Môn.
Mae pob Ffiws yn cael ei redeg gan y gymuned ac yn agored i bawb.
Rydym yn dibynnu ar wirfoddolwyr a gwneuthurwyr proffesiynol i sicrhau profiad gwerth chweil i ddefnyddwyr.
Cysylltwch â ni os hoffech ddysgu mwy am y cyfleoedd sydd ar gael i chi!