144 Stryd Fawr, Porthmadog, Gwynedd, LL49 9NU
Croeso i Hwb Arloesi; gofod amlbwrpas a chreadigol Menter Môn ym Mhorthmadog. Yn nyth o weithgarwch sy’n gweu, cyfuno ac egino syniadau – yn annog creadigrwydd a datblygu sgiliau newydd drwy greu cymuned mentrus ar y Stryd Fawr.
Dyma gartref ein gofod Ffiws hefyd ble ceir amrywiaeth o offer uwch-dechnoleg i arbrofi a datblygu syniadau. Mae croeso cynnes i bawb yma- o blant creadigol i oedolion sy’n awyddus i ddysgu sgil newydd a busnesau sydd eisiau datblygu cynnyrch!
Mae gennym bedwar technegydd profiadol i’ch cefnogi yn ystod eich hymweliad; gall Wyn a Ryan ddangos i chi sut i ddefnyddio peiriannau Ffiws, mae Angharad yma i’ch cynorthwyo â phrosiectau tecstiliau a gall Bethan roi bywyd newydd i’ch gemwaith!
Rydym yn cynnal caffi trwsio un dydd Sadwrn y mis hefyd- dewch i drwsio’ch beiciau, dillad a gemwaith! Mae Sian yn ymuno â ni un dydd Sul y mis i gynnal clwb clustogwaith hefyd- croeso i ddechreuwyr a rhai profiadol.
Dyma’n hamserlen wythnosol:
