Canolfan Cefnfaes, Llawr Uchaf, Mostyn Terrace, Bethesda, LL57 3AD
Sefydlwyd y Gofod Gwneud fel rhan o rwydwaith o gyfleusterau Ffiws ar draws Gwynedd ac Ynys Môn gyda chyllid o’r Gronfa Economi Gylchol trwy Lywodraeth Cymru i roi cyfle i bawb gael mynediad i offer uwch-dechnoleg ac i annog ac ysbrydoli creadigrwydd.
Rydym yn cynnal amrywiaeth o weithdai – cadwch lygad ar ein tudalennau cyfryngau cymdeithasol i weld beth sydd i ddod! Os hoffech chi: dysgu sut i ddefnyddio peiriant penodol, cael sesiwn rhagarweiniol / technegydd neu archebu lle ar weithdy, cysylltwch â gofod@ogwen.org.