Arloesi Dolgellau, Ty Newyddion, Stryd y Bont, Dolgellau, LL40 1AS
Mae gan Arloesi Dolgellau amrywiaeth o offer gwnïo ar gyfer atgyweirio ac ailddefnyddio ffabrigau yn ogystal ag offer digidol lefel uchel gan gynnwys argraffwyr 3D, sganiwr 3D, torrwr laser, wasg gwres, sleid, sganwyr lluniau a llyfrau, a chyfres o feddalwedd creadigol. Mae’n fan lle gall pobl gyfnewid a dysgu sgiliau newydd, atgyweirio ac ailddefnyddio eitemau, a chydweithio ag eraill. Mae Arloesi Dolgellau yn anelu at fod yn ganolbwynt ar gyfer entrepreneuriaeth leol, yr economi gylchol, prosiectau sydd wedi’u galluogi gan dechnoleg, a busnes creadigol. Nod Arloesi Dolgellau yw manteisio ar statws Dolgellau fel Tref Glyfar i archwilio’r defnydd o dechnolegau Rhyngrwyd o Bethau.
Huw Thomas ac Anna Lewis yw cyfarwyddwr Arloesi Dolgellau. Mae Huw wedi bod yn rhan o ddatblygiadau busnesau ynni, logisteg a gofod data newydd. Mae gan Anna gefndir mewn cymorth cymunedol yng Ngogledd Cymru, gan helpu gwirfoddolwyr lleol a grwpiau cymunedol i gychwyn prosiectau. Sandi yw Cydlynydd Arloesedd y gofod. Mae gan Sandi gefndir mewn TG ac, yn fwy diweddar, wedi datblygu ei busnes sebon ei hun. Mae hi’n wirfoddolwr rheolaidd ar safle Ffiws Abermaw, Tanio Bermo.