23 Bont Bridd, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AB
Mae Gisda’n elusen sy’n rhoi cefnogaeth a chyfleoedd i bobl ifanc digartref a bregus yng Ngwynedd drwy darparu llety; cefnogaeth therapiwtig i ddatblygu hyder a sgiliau byw’n annibynnol; cefnogaeth lles a iechyd meddwl; cefnogaeth symud ymlaen i gyflogaeth, addysg a/neu hyfforddiant; gweithgareddau creadigol i godi hyder a datblygu sgiliau; cyfleoedd i ehangu gorwelion. Mae hyn i gyrraedd ein gweledigaeth bod pobl ifanc Gwynedd yn gallu byw bywydau hapus a diogel yn rhydd o anfantais ac annhegwch.
Mae’r gofod FFIWS yn ofod gymunedol i greu amrywiaeth o ddeunydd newydd a chreu bwrlwm creadigol yn ganol dref Caernarfon. Mae’r gofod ar agor i bawb yn y gymuned ond hefyd yn ceisio targedu pobl heb brofiad technoleg neu greu blaenorol. Mae’r gofod FFIWS yn plethu gyda phrosiectau creadigol GISDA a rydym yn annog creadigrwydd wrth ddefnyddio’r peiriannau i arbrofia chreu. Mae gofodau FFIWS yn holl bwysig ar gyfer ein cymunedau, yn enwedig i allu creu cydraddoldeb a bod pawb gyda’r un cyfleoedd i ddefnyddio offer technolegol. GWEITHDAI – Trwy’r prosiect rydym yn cynnal sesiynau a gweithdai ar faterion amgylcheddol. Mae’r ffocws ar ailddefnyddio atgyweirio ac ailgynhyrchu eitemau sy’n bodoli eisoes. Rydym yn rhedeg cymysgedd o weithdai mewnol, gweithdai ar y cyd gyda gofodau FFIWS eraill a hefyd drwy dynnu gwirfoddolwyr/technegwyr allanol i gynnal gweithdai penodol.