Tecstiliau CBC, Y Bedol (Ground Floor Rear), B4366, Bethel, Caernarfon, Gwynedd, LL55 1AX
Mae Tecstiliau yn gwmni buddiant cymunedol sy’n hwyluso datblygiad, ymwybyddiaeth a hyrwyddo sgiliau seiliedig ar decstilau yng Nghymru.
Wedi’i sefydlu yng Ngwynedd, Gogledd Cymru, mae Tecstiliau yn fudiad di-elw a grëwyd gan grŵp bach sydd â diddordeb mewn hwyluso’r celfyddydau tecstilau fel rhan o dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Wrth wneud hynny, ein nod yw darparu ‘gofod’ ffisegol i weithgareddau sy’n seiliedig ar decstilau ddigwydd ond hefyd darparu ‘gofod’ diwylliannol i bwysleisio pwysigrwydd celfyddydau tecstilau yng Nghymru. Mae ein makerspace yn helpu i ddatblygu gweithgareddau entrepreneuraidd a defnydd o dechnoleg ar gyfer tecstilau a mwy.