Warws Werdd, Caernarfon

Oriau Agor

Cysylltwch â warwswerdd@anturwaunfawr.cymru i ddarganfod amseroedd agor.

Argraffydd 3D
Torrwr Laser
Gwasg Gwres
Gwasg Mwg
Argraffydd Sychdarthu
Torrwr Finyl
Sewing and Embroidery Machines

Wedi’i sefydlu yn 2004, mae’r Warws Werdd yn rhan o deulu o fusnesau Antur Waunfawr. Mae’r Warws yn gwerthu dodrefn, nwyddau gwyn a dillad ail-law, yn ogystal ag eitemau eraill, gyda gwasanaeth danfon lleol o amgylch Caernarfon, Bangor, Ynys Môn a Pen-Llyn.

Mae hefyd ystafell gyfarfod yma ar gyfer ei llogi, gyda lle parcio cyfleus, lluniaeth a thechnoleg.

Mae’r Warws yn adeilad newydd pwrpasol ac ym Mai 2011 gosodwyd system PV 17KW ar gyfer creu trydan gan ei wneud yn fwy cynaladwy.

Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â swyddfa@anturwaunfawr.cymru neu ffoniwch (01286) 674 155.

IMG 9794
IMG 9789
IMG 9804