Deunyddiau

Os hoffech brynu eich deunyddiau eich hunain, isod mae manylion technegol yr offer er mwyn sicrhau eich bod yn prynu’r deunyddiau cywir.

Os nad ydych yn siŵr beth i’w brynu, mae croeso i chi wirio gyda sofie@m-sparc.com

Ffiws V2 Cymraeg

Gwasg Gwres Mygiau

ARC Multi Function Mug Press (cynnwys y llun eto)

Addas ar gyfer mygiau 10oz a 11oz. Mae angen prynu mygiau sychdarthiad (sublimation), tydi mygiau arferol ddim am gymryd yr inc. Mae mygiau sychdarthiad yn golygu bod yr inc am fewnblannu mewn i’r mwg.

Engraifft o’r math y fygiau i brynu yma

Mae’r mygiau yn saff i’w rhoi yn y peiriant golchi llestri hyd at 45 gradd Celsius.

I argraffu'r delweddau bydd angen i chi ddefnyddio'r argraffydd sychdarthiad (sublimation) sydd ar gael yn Ffiws, ynghyd â'r papur arbennig ac inc cydnaws. Nid oes angen prynu'ch papur a'ch inc eich hun, ond ar gyfer argraffu nifer mawr o fygiau, siaradwch ag aelod o staff eich Ffiws lleol ymlaen llaw.

Argraffydd 3D

Original Prusa i3 MK3S 3D printer (cynnwys y llun eto).

Mae ffilament ar gael ym mhob Ffiws a cewch gyfrannu tuag at y gost pan yn ei ddefnyddio. Ffilament deunydd PLA a PETG sydd gennym ni – hwn ydi’r math o ffilament mwyaf hawdd i’w ddefnyddio ac mae’n addas ar gyfer rhan fwyaf o waith argraffu 3D.

Os hoffech brynu ffilament eich hunain, mae ffilament cytûn â’r argraffydd i’w gweld yma

Nid ydym yn awgrymu defnyddio FLEX, am ei fod yn gallu tagu’r argraffydd.

Laser

Cewch roi nifer o ddeunyddiau gwahanol yn y laser – gan gynnwys pren, acrylic, a llechen!

Dyma lle cewch weld pa ddeunyddiau sy’n addas, a cofiwch osgoi unrhyw ddeunydd gwaharddedig (link ir ddogfen deunyddiau gwaharddedig eto)

Laserable Materials (epiloglaser.co.uk)

Peiriant Argraffu a Torri Finyl

Mae'r peiriant hwn yn cymryd llu o wahanol ddefnyddiau, mewnosodwch y deunyddiau cyfatebol i wneud sticeri neu grysau-t. Dim ond ystod fach o ddeunyddiau sydd ar gael yn Ffiws, felly efallai yr hoffech sicrhau eich cyflenwad eich hun.

Rydym yn argymell y wefan hon i ddewis deunyddiau cydnaws. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n prynu deunyddiau ar gyfer y peiriant BN-20.

Self Adhesive Sign Vinyl, HTV, Large Printers, Laser Engravers | Grafityp UK Limited

Torrwr Finyl

Mae'r peiriant hwn i dorri finyl, i'w drosglwyddo i lu o ddeunyddiau, gan gynnwys dillad. Dim ond un lliw y mae'r peiriant hwn yn ei dorri ar y tro. Mae finyl ar gael yn Ffiws i chi ei ddefnyddio; os hoffech ddod â'ch un eich hun mae gwefan Roland yn cynnig y manylebau technegol https://www.rolanddg.co.uk/pro...

Peiriant CNC

Mae'r peiriant yn gweithio gydag ystod o ddeunyddiau: nid yw pren, plastig ac alwminiwm yn broblem.

Mae torri ffibr carbon, PCBs, a dur hefyd yn bosibl gydag ychydig o baratoi a rhagofal ychwanegol.

Cyflenwch eich deunyddiau eich hun ar gyfer y CNC, a gwiriwch gyda gweithdai Ffiws sy'n cynnig y peiriant hwn os nad ydych yn siŵr.

Argraffydd Sychdarthu

Mae argraffwyr ar gael yn Ffiws er mwyn argraffu dyluniadau ar gyfer mygiau a deunyddiau eraill sy'n gydnaws. Mae'r papur a'r inc cywir ar gael hefyd. Nid oes angen i chi ddod â'ch un eich hun ond os ydych chi am ddefnyddio'r peiriant ar gyfer rhediad print mawr, cysylltwch â'ch Ffiws lleol ymlaen llaw.

Gliniaduron

Mae gan bob Ffiws am ddim i ddefnyddio gliniaduron gyda'r holl feddalwedd angenrheidiol ar gyfer dylunio o fodelu / sleisio 3D. Gallwch ddod â'ch gliniadur eich hun neu’ch dyluniadau neu fodelau ar ysgrifbin os oes gennych ddyluniadau sy'n barod i'w trosglwyddo i'r peiriannau